Gwawr Loader

Cynhyrchydd, Dramodydd, Cyfieithydd, Actores

Producer, Writer, Translator, Actress

Daw Gwawr o Fynwent y Crynwyr, pentref bach ger Merthyr Tudful. Astudiodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar ôl ennill gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

 

Ymysg ei gwaith theatr mae'r cynhyrchiad THE RADICALISATION OF BRADLEY MANNING ar gyfer National Theatre Wales (a enillodd sawl gwobr), HOARD FESTIVAL ar gyfer y New Vic, THE LION THE WITCH AND THE WARDROBE ar gyfer Theatr Sherman, LEVIATHAN ar gyfer Theatr Sherman/Oran Mor/Traverse, CYRANO DE BERGERAC a PORTRAIT OF THE ARTIST AS A YOUNG DOG yn Theatr Clwyd.

 

Mae ei gwaith sgrîn yn cynnwys y ddrama INDIAN DOCTOR i'r BBC yn ogystal â POBOL Y CWM, TIR, BYW CELWYDD, CARA FI a TEULU ar gyfer S4C.

Bydd llais Gwawr yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd ifanc sy'n siarad Cymraeg gan ei bod yn lleisio Padget yn BING a Tom yn TREE FU TOM.

Hailing from Quakers Yard, near Merthyr Tydfil, Gwawr trained at the Royal Welsh College of Music and Drama after studying at Aberystwyth University.

Her theatre credits include the multi-award winning production THE RADICALISATION OF BRADLEY MANNING for National Theatre Wales, HOARD FESTIVAL for the New Vic, THE LION THE WITCH AND THE WARDROBE for Sherman Theatre, LEVIATHAN for Sherman Theatre/Oran Mor/Traverse, CYRANO DE BERGERAC and PORTRAIT OF THE ARTIST AS A YOUNG DOG for Theatr Clwyd.

Gwawr's on screen credits include the BBC drama INDIAN DOCTOR along with POBOL Y CWM, TIR, BYW CELWYDD, CARA FI and TEULU for S4C.

She is familiar to young Welsh-speaking audiences as Padget in BING and Tom in TREE FU TOM

headshot gwawr.JPG